Deiseb a wrthodwyd Newidiwch y rheolau i ganiatáu i ddeunydd ysgrifennu a llyfrau gael eu gwerthu mewn siopau hanfodol nawr

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahardd gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol o siopau sydd ar agor yn gwerthu eitemau hanfodol yn ystod cyfnod atal byr 17 ddiwrnod. Mae hyn yn cynnwys deunydd ysgrifennu a chynhyrchion eraill sy’n cael eu defnyddio gan fyfyrwyr ledled Cymru. Rydym yn galw iddynt fod ar werth eto ar unwaith ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried hyn yn sgil ei phenderfyniad ei bod yn ddiogel i addysg barhau i filoedd o fyfyrwyr a disgyblion ar draws y wlad ac mae angen deunydd ysgrifennu ar lawer o bobl sy’n gweithio gartref.

Rhagor o fanylion

Mae hefyd yn cynnwys llyfrau sy’n ddefnyddiol i amrywiaeth o bobl o ran cadw’r meddwl yn brysur, llesiant meddwl a datblygu sgiliau darllen. Rydym yn credu bod cynhyrchion deunydd ysgrifennu a llyfrau’n hanfodol ac yn mynnu eu bod ar werth mewn archfarchnadoedd eto ac y caniateir i siopau agor.

Llofnodwch y ddeiseb isod i ddangos eich cefnogaeth i fyfyrwyr, plant ysgol a gweithwyr cartref Cymru nawr.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.

Yn sgil newidiadau mewn amgylchiadau a rheoliadau gan Lywodraeth Cymru ers creu'r ddeiseb, penderfynodd y deisebydd dynnu'r ddeiseb yn ôl.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi