Deiseb a gaewyd Cyhoeddwch dystiolaeth glir fod COVID 19 yn cael ei ledaenu mewn tafarndai a bwytai lle mae mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith

Ni all Llywodraeth Cymru ddangos tystiolaeth glir i gyfiawnhau'r penderfyniad unochrog i gyflwyno’r cyfnod atal byr sydd mewn grym ar hyn o bryd am 17 diwrnod. Hefyd, nid yw wedi cyhoeddi strategaeth i ddod â’r cyfyngiadau presennol i ben.

Rhagor o fanylion

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i orfodi’r cyfyngiadau Covid presennol wedi cythruddo nifer. Mae llawer yn dadlau bod y cyfyngiadau’n mynd yn groes i hawliau dynol mewn cymdeithas ddemocrataidd wâr.

Dylid cynghori, yn hytrach na gorfodi pobl, i gadw at y cyfyngiadau, gan esbonio’r canlyniadau’n glir. Hy y risg o gael eich heintio, o gael eich taro’n wael, o drosglwyddo’r haint i eraill a’r posibilrwydd y gall yr haint eich lladd.

Mae nifer yn poeni am yr effeithiau niweidiol ar yr economi a bywoliaeth pobl, am yr angen i ysbytai ohirio triniaethau nad ydynt yn gysylltiedig â Covid-19, ac am gyfyngiadau teithio difrifol etc.

Nid oes modd cael prawf oni bai’ch bod yn dangos symptomau, ac nid oes modd cael prawf gwrthgorff.

Hyn oll er nad yw ystadegau iechyd Llywodraeth Cymru yn cynnig unrhyw dystiolaeth bendant.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

87 llofnod

Dangos ar fap

10,000