Deiseb a gwblhawyd Caniatewch i gorwyr a chorau ieuenctid ganu yng Nghymru ac i gerddorion ifanc berfformio mewn grwpiau

Pan gyflwynwyd y cyfyngiadau symud, ystyriwyd bod canu’n beryglus iawn, ond mae astudiaethau gwyddonol yn dangos, dro ar ôl tro, nad yw canu’n fwy peryglus na siarad os caiff ei wneud yn drefnus ac ar ôl cynnal asesiad risg. Mae ymchwil yn dangos bod canu’n berffaith ddiogel, yn enwedig mewn mannau mawr sy'n cael digon o awyr, fel eglwysi cadeiriol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn caniatáu i blant a phobl ifanc ganu o hyd gan ei bod wedi dweud ei fod yn rhy beryglus oherwydd oedran a phroblemau iechyd isorweddol.

Rhagor o fanylion

Mae Eglwys Loegr wedi caniatáu i gorwyr ddychwelyd ers mis Medi ac ni chafwyd gwybod am achosion o Covid o ganlyniad i hynny hyd yn hyn. Mae’r holl eglwysi cadeiriol ac eglwysi eraill sydd wedi dychwelyd wedi cynnal asesiadau risg i sicrhau diogelwch corau a chynulleidfaoedd.

Rhoddwyd llawer o ystyriaeth i lesiant meddwl a chorfforol athletwyr ifanc, mabolgampwyr a sbortsmyn eraill, ond nid yw cantorion a cherddorion yn cael yr un ystyriaeth.

Mae llawer o gerddorion a chorwyr yn ymarfer ac yn hyfforddi’r un mor galed ag athletwyr ac mae eu llesiant a'u datblygiad yn cael eu diystyru ar hyn o bryd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

861 llofnod

Dangos ar fap

5,000