Deiseb a wrthodwyd Ail-enwi Trafnidiaeth Cymru yn Cledrau Cymru pan gaiff y rhwydwaith rheilffyrdd ei ailwladoli

Pan gaiff y rheilffyrdd eu hailwladoli mae angen enw newydd i goffáu’r achlysur.

Mae Cledrau Cymru yn swnio’n well ac mae’n disgrifio’r hyn ydyw yn well. Gallai "Trafnidiaeth Cymru" olygu unrhyw fath o drafnidiaeth. Ein trenau yw’r rhain.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi siomi ein cymuned gyda gwasanaeth gwael.

Bydd Cledrau Cymru ar y trywydd iawn i fynd â phobl Cymru i ble bynnag mae angen iddynt fod.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi