Deiseb a gwblhawyd Amddiffyniad Cyfreithiol i Ardaloedd Tirwedd Arbennig dynodedig yng Nghymru
Mewn ymateb i’r argyfwng yn yr hinsawdd, gofynnwn i Lywodraeth Cymru ddiogelu Ardaloedd Tirwedd Arbennig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae Ardaloedd Tirwedd Arbennig yn feysydd tirwedd uchel o bwys ar gyfer gwerth amgylcheddol, corfforol, gweledol, diwylliannol neu hanesyddol a gallan nhw fod yn unigryw, yn eithriadol neu'n neilltuol, ond NID YDYN NHW WEDI’U HAMDDIFFYN.
Mae eu coetiroedd hynafol, rhywogaethau prin, ardaloedd arbennig o gynefin neu'r man lle y maen nhw’n bodoli yn agored i niwed yn sgil ffyrdd newydd, parciau busnes neu ddatblygiadau niweidiol eraill.
Rhagor o fanylion
Mae enghraifft o Ardal Tirwedd Arbennig sydd mewn perygl ym mhentref cadwraeth Pendeulwyn yn Nyffryn Elái, y mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig adeiladu ffordd cludo nwyddau newydd drwyddo. Bydd y ffordd hon yn dinistrio coetir hynafol a bywyd gwyllt sydd mewn perygl yn ogystal â llygru'r cyrsiau aer a dŵr y mae'r Ardal Tirwedd Arbennig hon yn dibynnu arnyn nhw.
Yn anffodus, nid oes unrhyw amddiffyniad i fod yn Ardal Tirwedd Arbennig, felly mae cynllunwyr a datblygwyr yn rhydd i ddatblygu pa bynnag gynlluniau y maent eu heisiau.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gofio eu hymrwymiad i bolisïau amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd, a'u cyfrifoldebau i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae angen rhoi amddiffyniad Cyfreithiol ar frys i ardaloedd unigryw yng Nghymru sydd eisoes wedi'u nodi fel Ardaloedd Tirwedd Arbennig.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon