Deiseb a gwblhawyd Peidiwch â gosod terfyn o 15 person ar weithgareddau dan do wedi'u trefnu – fel gwersi nofio a dosbarthiadau ffitrwydd – ar ôl y cyfnod atal byr
Mae gweithgareddau a chwaraeon yn rhan o'r ateb i Covid. Mae'r wlad hon yn colli'r frwydr yn erbyn gordewdra a’r potensial cynyddol o salwch iechyd meddwl yn fwy eang yn y boblogaeth, ac mae angen ystyried bod gweithgaredd corfforol yn wasanaeth hanfodol.
O ganlyniad i gyfyngu ar niferoedd, mae sesiynau’n cael eu gwasgaru ar draws amserlen arferol argaeledd lleoliadau, ac yn cyfyngu ar nifer y sesiynau sydd ar gael i unigolyn.
Mae hyn hefyd yn cael effaith ariannol ar glybiau chwaraeon amatur cymunedol.
Rhagor o fanylion
Er bod y Grantiau Gweithgareddau Lles wedi'u cyrchu, mae clybiau chwaraeon amatur cymunedol o dan bwysau ariannol difrifol.
Ar ôl cyfyngu'r clybiau dan do i 30, gallai gostwng ymhellach i 15 orfodi clybiau chwaraeon amatur cymunedol i aros ar gau.
Yr un yw ein rhwymedigaethau ariannol wedi parhau i fod, er enghraifft costau lleoliad, cyflogau hyfforddwyr ac yswiriannau.
Does yr un o'r rhain wedi lleihau felly mae ein costau y pen wedi cynyddu, ac mae'n anochel y byddant nawr yn dyblu, o leiaf, unwaith eto os bydd y terfyn hwn o 15 person ar chwaraeon dan do yn mynd rhagddo.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon