Deiseb a gwblhawyd Caniatáu cyfarfodydd ymbellhau cymdeithasol mewn gerddi preifat i ddilyn y wyddoniaeth ac osgoi teimlo’n ynysig

Cafodd llawer o bobl yng Nghymru a oedd yn gwarchod, neu mewn cartrefi gofal â mesurau llym a orfodwyd ar breswylwyr, eu gadael i deimlo’n ynysig am fisoedd ar gost enfawr i lesiant meddwl a chorfforol. Addawodd y llywodraeth na fyddai hyn yn digwydd eto. Mae cwrdd ag anwyliaid yn yr awyr agored mewn gardd breifat reoledig yn ffordd ddiogel i unrhyw un osgoi cael ei ynysu pan nad oes caniatâd i fynd i fannau cyhoeddus, neu pan mae pobl yn rhy ofnus i wneud hynny. Mae hyn yn golygu bod miloedd o bobl agored i niwed yn cael eu hynysu unwaith eto heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain.

Rhagor o fanylion

Byddai'r mwyafrif helaeth o ddinasyddion gofalus sy'n cydymffurfio yn cyfarfod mewn gerddi preifat heb dorri'r rheoliadau. Nid oes tystiolaeth i awgrymu y bu mwy o achosion o dorri amodau mewn cartrefi preifat nag mewn mannau cyhoeddus. Nid oes tystiolaeth i awgrymu y bydd y rhai sy'n diystyru rheolau Covid yn ymddwyn yn well neu'n cydymffurfio'n well mewn mannau cyhoeddus yn hytrach na gerddi preifat. Mae'r feirws yn ymledu'n haws y tu mewn. Mae'r ddadl ynghylch mynd i mewn os caniateir cyfarfod mewn gerddi preifat yn ddiffygiol, gan fod y llywodraeth yn caniatáu cyfarfod dan do beth bynnag.
Mae'r feirws yn ymledu'n haws mewn mannau lle mae'n rhaid i bobl symud o gwmpas a mynd a dod, e.e. tafarndai. Mae alcohol yn effeithio ar farn pobl felly efallai na fydd pobl yn gallu ymbellhau’n gymdeithasol yn effeithiol ar ôl yfed. Mae’n anodd rheoli mannau cyhoeddus, strydoedd a pharciau, gyda llawer o bobl yn mynd a dod i gyfeiriadau gwahanol, gan ei gwneud yn anodd rheoli pellter, heb unrhyw fai personol, ond gellir rheoli mannau preifat.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

273 llofnod

Dangos ar fap

5,000