Deiseb a wrthodwyd Dylid codi’r gwaharddiad ar deithio rhyngwladol
Yn fy marn i, nid yw’n deg, yn dilyn ein cyfnod atal byr, nad ydym ni’n cael teithio dramor oherwydd bod pobl Lloegr mewn cyfnod clo. Roedden nhw’n cael teithio pan oeddem ni yn ein cyfnod atal byr.
Ni welaf broblem gyda mynd o Gymru i faes awyr yn Lloegr er mwyn gadael y wlad, cyhyd â nad ydych chi'n stopio unrhyw le yn Lloegr.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi