Deiseb a gwblhawyd Sicrhau bod perchnogion ail gartrefi a thai gwyliau ar rent yng Nghymru yn pleidleisio yn eu prif gyfeiriad yn unig, mewn etholiadau datganoledig a lleol
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cadarnhau nad oes gwiriadau systematig i ganfod a yw rhywun wedi pleidleisio ddwywaith. Nid ydym yn credu bod y ffaith bod twyll etholiadol yn anghyfreithlon ynddi’i hun yn ddull digonol o ddiogelu os na wneir gwiriadau systematig. Mae hyn yn debyg i gael cyfreithiau ynghylch goryrru ond heb gamerâu cyflymder yn cael eu gweithredu. Mae’r potensial difrifol o ran twyll ac effaith niweidiol hynny ar ein gwlad yn anferth a dylid cael trefn arno cyn etholiad 2021.
Rhagor o fanylion
Cyfeirnod:
E-bost wedi’i dderbyn gan y Comisiwn Etholiadol ar 3 Tachwedd 2020
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon