Deiseb a wrthodwyd Hold Welsh referendum to return power back to UK Government

The Government should hold a referendum in Wales on whether to devolve powers from the Welsh Government to the central UK government to avoid confusion in separate rules and laws.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cadarnhau graddau pŵer y Senedd i wneud cyfreithiau newydd a diwygio cyfraith bresennol (a elwir hefyd yn gymhwysedd deddfwriaethol). Mae Atodlenni 7A and 7B o Ddeddf 2006 yn nodi’r materion sy’n gyfyngedig neu a gedwir yn ôl - h.y. meysydd lle y caiff Senedd y DU, nid Senedd Cymru, ddeddfu.

Byddai angen i Lywodraeth y DU neu Senedd y DU alw refferendwm ar y pwnc hwn, neu byddai angen rhoi pwerau penodol i'r Senedd er mwyn i refferendwm o'r fath gael ei gynnal.

O ganlyniad, nid yw’n bosibl i’r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn galw amdanynt.

Mae rhagor o wybodaeth am bwerau deddfwriaethol y Senedd i’w gweld yma:
https://senedd.wales/cy/abthome/role-of-assembly-how-it-works/Pages/Powers.aspx

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi