Deiseb a wrthodwyd Sefydlwch ragdybiaeth yn erbyn torri coed aeddfed i lawr yng Nghymru
Rydym yn colli coed llydanddail brodorol ar raddfa aruthrol. Gall torri coed i lawr gael effaith enfawr ar fywyd gwyllt, bioamrywiaeth, yr amgylchedd, ein llesiant ac, yn y pen draw, ar yr hinsawdd. Ac eto, dim ond nifer fach o goed sydd â Gorchmynion Diogelu Coed, a phrin yw’r mesurau mewn polisi i ddiogelu’r gweddill.
Mae angen i bolisi ddiogelu ein hadnoddau o ran coed ac arafu dirywiad brigdwf. Dylai fod angen trwydded ar gyfer torri unrhyw goeden aeddfed i lawr, a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol a chlir y dylid rhoi trwyddedau o’r fath.
Rhagor o fanylion
Nid oes fawr o bwynt plannu coed newydd os ydym yn parhau i dorri coed aeddfed i lawr. Ni all planhigion ifanc ‘gymryd lle’ brigdwf un dderwen gan mlwydd oed, ac ni fyddant yn cynnig unrhyw fuddion sylweddol am flynyddoedd lawer. Byddai llawer yn symlach ac yn fwy effeithiol i gadw’r cynefinoedd brigdwf sy'n bodoli eisoes.
Ar hyn o bryd, mae'r rheoliadau yn nodi bod angen trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru i dorri dros 5 metr ciwbiedig o bren i lawr mewn unrhyw gyfnod o dri mis; mae hynny’n gyfystyr â nifer o goed.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi