Deiseb a wrthodwyd Gweithredu cyfanswm cyfreithiol ar nifer y cwn a ganiateir mewn eiddo cyfagos
Wedi byw y drws nesaf i 9 ci am y 5 mlynedd diwethaf gyda nosweithiau a diwrnodau di-gwsg di-rif rhwng fy sifftiau a chwyno parhaus am sŵn, rwyf wedi sefydlu'r ddeiseb hon i Lywodraeth Cymru ynghylch cyfreithiau ar gyfer nifer y cŵn a ganiateir mewn eiddo lle byddai'r cyfarth gormodol yn achosi pryder a gofid i gymdogion cyfagos.
Nid yw cael dirwy gan y cyngor yn unig yn ddigon ac mae angen atal y mater ar yr adeg y rhoddir cartref i ormod o gŵn.
Rhagor o fanylion
Mae gennyf ddatganiad a anfonais at y cyngor y byddwn yn fwy na pharod i'w rannu pan fydd angen.
Caiff 3 awr y dydd eu treulio yn recordio’r cŵn ar gyfer ein hachos cwynion sŵn.
Mae'r cymydog yn aml yn sarhaus wrth geisio trafod neu ar ôl derbyn rhybuddion y cyngor.
Rwy’n credu y byddai peidio â chaniatáu i bobl gael gormod o gŵn mewn eiddo cyfagos neu ardal breswyl brysur yn dileu achos y broblem.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi