Deiseb a wrthodwyd Refer Tax and Revenue raising powers to a Referendum in Wales.

Regarding Tax Raising powers,it was promised that this issue would be put to the People of Wales. Sadly it seems that this has been forgotten by the Welsh Government. Wales is not an Independent Country and remains an integral part of the UK. Differences in Tax and Revenue collecting systems may cause confusion and problems as regards the rest of the UK.

Rhagor o fanylion

Ultimately,if the Welsh Government should want to push on with Tax and Revenue raising powers,it should offer the People of Wales a Referendum on Full Independence from the United Kingdom. I reflect on past Referenda to do with the Welsh Assembly Government and the distinctly poor turnouts at the Ballot box,which reflects on the distinct lack of interest in Devolution generally.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n gofyn i’r Senedd wneud rhywbeth na all ei wneud.

O dan Ddeddf Cymru 2014, rhoddwyd y pŵer i’r Senedd ddeddfu ar rai trethi datganoledig ac i bennu cyfraddau treth incwm ar gyfer trethdalwyr Cymru. Dilëwyd y gofyniad i gynnal refferendwm cyn datganoli pwerau treth incwm gan Senedd y DU yn Neddf Cymru 2017.

Felly, Senedd y DU, nid y Senedd, oedd yn gyfrifol am ddileu'r gofyniad i gynnal refferendwm. O ran cael refferendwm ar annibyniaeth i Gymru, mae hynny hefyd yn rhywbeth y byddai angen i Lywodraeth y DU neu Senedd y DU alw amdano, neu byddai angen rhoi pwerau penodol i'r Senedd i gynnal refferendwm o'r fath.

O ganlyniad, nid yw’n bosibl i’r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn galw amdanynt.

Mae’n bosibl y gallem dderbyn deiseb a oedd yn galw am gynnal arolwg barn i ganfod barn y cyhoedd ar sut y dylid defnyddio'r pwerau treth sydd ar gael i Weinidogion Cymru.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi