Deiseb a wrthodwyd Addysgu mesurau traddodiadol y Gymraeg mewn ysgolion i ennyn diddordeb myfyrwyr yn greadigol yn hanes Cymru.

Gallai’r ddeiseb hon gyfrannu at ddadl a gofnodwyd ar 4 Tachwedd ynghylch addysgu hanes Pobl Dduon mewn ysgolion. Hoffwn weld crefft mesurau traddodiadol y Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion Saesneg eu hiaith. Mae’r grefft hon wedi datblygu ochr yn ochr â hanes Cymraeg a hanes amlgenedlaethol Cymru. Gellid ei defnyddio i gyflwyno hanes amlgenedlaethol a Chymreig i fyfyrwyr, gan roi ffordd iddynt feddwl yn feirniadol am hanes Cymru ac ymateb drwy fynegiant creadigol.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi