Deiseb a gwblhawyd Gadewch i gorau ymarfer dan do os ydyn nhw'n cynhyrchu asesiad risg llawn i atal haint C-19

Mae corau yng Nghymru yn cael eu hatal rhag ymarfer dan do oherwydd canllawiau cyfredol C-19 Llywodraeth Cymru, sy'n annog peidio â chanu dan do. Nid yw'r canllawiau'n ystyried camau y gall corau eu cymryd, megis gwisgo amddiffynwyr wyneb, cadw pellter, gwneud llai o sŵn wrth ganu, diheintio arwynebau a dwylo, ac awyru. Nid yw corau yn gallu parhau i ymarfer yn yr awyr agored yn ystod y gaeaf. Dylid newid y canllawiau i ganiatáu canu wedi’i drefnu dan do os gellir dyfeisio a gweithredu asesiad risg a chynllun.

Rhagor o fanylion

Mae Côr Meibion y Bont-faen yn gôr llewyrchus a llwyddiannus y mae ei aelodaeth ar gynnydd, ac mae wedi bod yn ymarfer yn yr awyr agored yn unol â rheolau Llywodraeth Cymru. Mae rheolau cyfredol y Llywodraeth yn caniatáu i hyd at 15 o bobl gwrdd dan do, ond nid ar gyfer canu. Mae'n ymddangos bod y canllawiau hyn yn seiliedig ar arbrawf ymchwil cyfyngedig (https://academic.oup.com/cid/advance-article/doi/10.1093/cid/ciaa1241/5908276) a fesurodd ddefnynnau a anadlwyd allan wrth ganu. Nid oedd yr ymchwil wedi ystyried y camau synhwyrol y gellir eu cymryd i leihau risg, sef camau y gall côr y Bont-faen a chorau eraill eu cymryd.
Dangosodd ymchwil a gyhoeddwyd gan Brifysgol Lund ym mis Medi 2020 (https://www.scientaily.com/releases/2020/09/200908101621.htm) fod mesurau atal yn peri i’r allyriadau gronynnau a gynhyrchir trwy ganu ostwng i’r un lefel â siarad yn normal.
Ni fydd corau fel côr y Bont-faen yn gallu parhau i ymarfer yn yr awyr agored yn ystod misoedd y gaeaf sydd i ddod; dylid caniatáu iddynt ymarfer dan do mewn grwpiau o 15 os ydyn nhw’n cymryd camau atal heintiau.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

498 llofnod

Dangos ar fap

10,000