Deiseb a gwblhawyd Caniatáu o leiaf un rhiant neu warcheidwad i wylio gemau pêl-droed sydd wedi'u trefnu i blant
Ar hyn o bryd caniateir i rieni wylio sesiynau hyfforddi pêl-droed i blant mewn amgylchedd awyr agored. Fodd bynnag, ni chaniateir i rieni wylio unrhyw gemau sydd wedi'u trefnu.
Mae hyn yn taro rhywun fel bod yn wrthgyferbyniol a gormodol pan fod mesurau diogelwch eraill ar gael, sy’n ddichonadwy. Er enghraifft, mae Lloegr yn caniatáu i rieni wylio o bellter o 3m i ffwrdd o ochr y cae. Byddai cyflwyno hynny’n opsiwn synhwyrol, ynghyd â gofyn bod pob oedolyn yn gwisgo gorchudd wyneb ac yn cadw at reol dau fetr.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon