Deiseb a gwblhawyd Peidiwch â newid ffin bleidleisio de Ystrad Mynach
Mae gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gynigion datblygedig iawn, sydd bellach gerbron Llywodraeth Cymru, a fyddai'n symud ystâd Melin yr Efail a Cwrt Coopers i gyngor cymuned Llanbradach. Ni hysbyswyd trigolion yr ardal gyfan hon, er bod eu cynghorwyr cymuned lleol yn gwbl ymwybodol. Nid oes neb wedi ymgynghori â ni. Dim drwy hap a damwain y cawsom wybod bod y cynigion hyn yn bodoli.
Rhagor o fanylion
Mae'r cynigion hyn yn ein gwahanu â’n cymuned, gan fynd â'n pleidlais o’r gymuned rydym yn cymryd rhan weithredol ynddi a’i rhoi i gymuned nad ydym yn rhan ohoni. Nod y ddeiseb hon yw rhoi gwybod i chi, ein cynrychiolwyr yn y Senedd, am ein gwrthwynebiad cryf i'r newidiadau arfaethedig i ffin bleidleisio de Ystrad Mynach. Rydym yn mynnu peidio â chael ein gwahanu â'n cymuned ac yn hyderu y byddwch yn cymryd y camau priodol i sicrhau nad ydym yn rhan o'r cynnig.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon