Deiseb a wrthodwyd Senedd Cymru i ddarparu Adolygiad/Panel i edrych ar faterion ehangach sy’n gysylltiedig ag ynni'r llanw ar draws Aber Hafren

Nid yw pobl Cymru a de-orllewin Lloegr am gael ynni niwclear ar lannau Aber Hafren ac mae'n amlwg bod Hinkley Point C, a'i gostau enfawr a’r gwaith glanhau yn y dyfodol, yn gamgymeriad. Gallai sarn ynni newydd (yr hen Forglawdd Hafren), ynghyd â thechnoleg ddiweddaraf y DU sydd dan batent, ddarparu ynni glân, gwyrdd a diogel, (10% o anghenion y DU) a fydd yn diddymu’r bygythiad niwclear. Mae'r holl asesiadau wedi'u gwneud ac mae'r lobi werdd ar lawr gwlad yn cefnogi'r cynllun.

Rhagor o fanylion

Ers 2006 bu ymdrech ar y cyd i adeiladu Sarn Ynni Hafren o Larnog i Brean Down. Mae astudiaethau dichonoldeb a phob asesiad arall wedi bod yn gadarnhaol, fodd bynnag, nid yw'r datblygiad hirgul y gellid ei greu o ganlyniad i ddyfroedd gwarchodedig a mwy diogel y Sarn erioed wedi cael ei ystyried yn nhermau economaidd. At hynny, mae systemau newydd dan batent yn y DU sy'n defnyddio technoleg sy'n bodoli eisoes yn gallu cynhyrchu llawer mwy o ynni o lanw a thrai Aber Hafren, ddwywaith y dydd, gan gynhyrchu pŵer am gan mlynedd. Byddai prosiect o'r fath yn fwy nag unrhyw gynllun peirianneg sifil arall yn Ewrop, gan greu degau o filoedd o swyddi gwyrdd y mae mawr eu hangen yng Nghymru a de-orllewin Lloegr. Hefyd, byddai'r datblygiad hirgul y cyfeiriwyd ato uchod o amgylch y 'llyn' yn ased enfawr yn ardal Caerdydd/Bryste/Gwlad yr Haf. Yn olaf, fel bonws ychwanegol, byddai’r ardal i fyny’r afon o’r Sarn yn cael ei amddiffyn yn awtomatig rhag llifogydd. Yn dilyn Brexit, mae Llywodraeth y DU (sydd wedi addo lleihau biwrocratiaeth) yn barod i benodi datblygwr preifat i adeiladu'r ased hwn y mae mawr ei angen yn y DU. Dylem fwrw ymlaen! Cefnogwch y ddeiseb hon.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi