Deiseb a wrthodwyd Rhoi profion wythnosol i berthnasau dynodedig y rhai sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
Gofynnwn i bob ymwelydd dynodedig gael statws gweithiwr allweddol a sicrhau bod digon o brofion ar gael i berthnasau.
Dylai pob preswylydd gael un ymwelydd a fydd yn cael prawf bob wythnos gyda staff er mwyn caniatáu ymweliadau wyneb yn wyneb.
Gofynnwn am ddileu cynlluniau peilot ac ehangu profion yn raddol ledled Cymru ar unwaith. Byddai hyn yn ateb mwy trugarog i’r broblem, sy’n caniatáu mân amrywiadau, ac sy’n pwyso a mesur y risg o ddal Covid-19 a dirywiad meddyliol a chorfforol enbydus y rhai sy’n byw mewn cartref gofal preswyl.
Rhagor o fanylion
Ar ôl 9 mis, mae dros 40,000 o anwyliaid ledled y DU yn dal i gael eu cadw ar wahân i’r rhai y maent yn eu caru.
Fe allwn ac fe ddylen ni fod yn arwain y gad yma yng Nghymru ac yn arloesi mewn modd sy’n dangos tosturi. Mae perthnasau wedi methu ymuno â’u hanwyliaid ar gyfer llawer gormod o ddyddiau gŵyl a dathliadau pwysig.
Mae Flo yn 93. Symudodd i Gymru i fod yn agos at ei merch. Maent wedi gweld ei gilydd am ddwy awr a hanner ers mis Chwefror. Cafodd Flo ei tharo’n wael ym mis Gorffennaf a threuliodd fis yn yr ysbyty pan gafodd y cyfyngiadau ar ymwelwyr eu llacio, ac yna daeth yr ail don. Mae gan Flo ddementia. Mae'n gwaethygu. Nid yw'n deall pam na all weld ei theulu. Dim ond un o filoedd yw Flo.
Byddem yn eich annog i ystyried yr hyn y mae’r Fforwm Gofal Cenedlaethol yn galw amdano yn ei lythyr, sydd wedi'i lofnodi gan bob sefydliad blaenllaw sy'n canolbwyntio ar ofal a hawliau dinasyddion oedrannus yn y DU, ac sy'n cyd-fynd â’r hyn y mae’r ymgyrch RightsForResidents yn galw amdano. Mae'r ddau yn gofyn i'r holl ymwelwyr dynodedig gael prawf gyda staff.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi