Deiseb a gwblhawyd Gosodwch gyfyngiadau symud i ysgolion gael pythefnos o wyliau cyn 24 Rhagfyr a galluogi pawb i gael amser teuluol.

Mae ysgolion yn dal i gael problemau gydag achosion COVID gyda grwpiau blwyddyn cyfan yn cael eu hanfon adref mewn rhai achosion, hyd yn oed ar ôl y cyfnod atal byr diweddar a barhaodd am bythefnos. Bydd seibiant am 14 o ddyddiau’n galluogi rhai teuluoedd i gael amser teuluol hollbwysig dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd i adfywio cysylltiadau teuluol a chael trafodaeth bwysig am broblemau iechyd meddwl ymhlith yr ifanc a’r hen.

Rhagor o fanylion

Mae deiseb debyg a gobeithio y cynhelir dadl yn ei chylch yn Lloegr

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

10,836 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Penderfynodd y Pwyllgor beidio â chyfeirio’r ddeiseb ar gyfer ddadl yn sgil y cyhoeddiad y byddai ysgolion yng Nghymru yn cau ar gyfer addysgu personol yn ystod wythnos olaf y tymor ym mis Rhagfyr 2020. Roedd hyn yn golygu bod y weithred yr oedd y ddeiseb yn gwneud cais yn ei chylch eisoes wedi’i chyflawni yn rhannol.