Deiseb a gwblhawyd Rhowch derfyn ar ynysu torfol gan blant ysgol iach!
Mae gorfodi plant i ynysu am 14 diwrnod yn gwneud cymaint o niwed i'w llesiant meddyliol a chorfforol, mae'n anghymesur â'r risg o ddod i gysylltiad â’r Coronafeirws yn y lle cyntaf.
Mae rhai plant yn dioddef eu trydydd cyfnod o ynysu mewn tri mis! Mae hyn yn cael mwy fyth o effaith andwyol ar blant ag anghenion ychwanegol neu o gefndiroedd difreintiedig.
Mae rhieni sy'n gweithio (nad ydynt yn ynysu) yn dioddef gan nad yw cyflogwyr bob amser yn cydymdeimlo yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn.
Rhagor o fanylion
Atebion:
Cyflwynwch brofion Coronafeirws sy’n rhoi canlyniad ar unwaith i blant ysgol sydd, o bosibl, wedi dod i gysylltiad â'r feirws. Mae hyn yn cael ei gyflwyno yn ein cartrefi gofal a'n meysydd awyr, felly pam nad oes modd gwneud hynny yn ein hysgolion?
Er mwyn lleihau'r risg, sef "canlyniad negatif anghywir", gellid cymryd y prawf ychydig o ddyddiau ar ôl yr achos posibl o ddod i gysylltiad â'r feirws.
Bydd unrhyw ostyngiad yn y cyfnod ynysu 14 diwrnod o fudd enfawr i'r plant.
Dylid nodi nad yw'r plant sy'n ynysu erioed wedi dod i gysylltiad â'r plentyn heintiedig (digwydd hyn yn aml mewn ysgolion uwchradd).
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon