Deiseb a wrthodwyd Darparu addysg rithwir i flynyddoedd 10 ac uwch er mwyn sefydlogi eu dysgu

Os dychwelwn at ddysgu ar-lein i flynyddoedd 10 i 13, byddai hanner disgyblion yr ysgol yn dysgu gartref, gan wneud yr ysgol ei hun yn amgylchedd mwy diogel i blant iau ac athrawon. At hynny, byddai’n cynnig mwy o sefydlogrwydd i'r dysgwyr hŷn, yn hytrach na'r sefyllfa ers mis Medi lle mae'r plant wedi bod yn ôl ac ymlaen i’r ysgol yn barhaus, oherwydd bod angen i blant hunanynysu neu o ganlyniad i absenoldebau staff.
Yn ystod y cyfyngiadau symud o 3 mis, gweithiodd y rhan fwyaf o blant mewn blynyddoedd arholiadau yn galed yn eu gwersi ar-lein a ddarparwyd â chefnogaeth yr ysgol, gan sicrhau bod perthynas da’n cael ei chynnal rhwng yr athrawon a’r disgyblion. Rhagorodd nifer gan gyflawni eu potensial llawn. Gallai plant hŷn ddod i'r ysgol i ymgymryd ag asesiadau neu arholiadau pan nad yw'r blynyddoedd iau yno.

Rhagor o fanylion

Mae ysgolion wedi gweithio mor galed i addasu ond mae hwn yn ddull annerbyniol o ddysgu, mewn gwirionedd. Mae'r straen o newid yn gyson, amserlenni, cyfyngiadau symud, newidiadau i arholiadau, gwahanol athrawon, hunanynysu, oll yn peri cryn niwed, ac mae iechyd meddwl ein pobl ifanc mewn perygl difrifol.
Bydd y yr anrhefn hon yn cael effeithiau niweidiol yn y tymor hi, ar ragolygon gyrfa tymor hir i blant 2020/21. Mae diffyg cymryd camau pendant ar ran y Senedd yn fethiant arswydus wrth ddiogelu dyfodol ein plant.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi