Deiseb a gwblhawyd Darparu cynhyrchion mislif yn rhad ac am ddim i bob person sy’n cael mislif yng Nghymru

Nid yw'r £3.1 miliwn a ddarperir i ysgolion yng Nghymru i brynu cynhyrchion mislif yn ddigon i gadw pob merch ifanc allan o dlodi mislif ac mewn addysg. A minnau wedi profi embaras mislif yn uniongyrchol, gwn sut deimlad yw eistedd drwy wers, yn gwaedu drwy fy nghynnyrch mislif oherwydd bod gen i ormod o gywilydd gofyn i ffrind, neu athro, a gawn fenthyg y cynnyrch ganddyn nhw. Mae angen inni roi terfyn ar y stigma o ran y mislif, a rhoi cynhyrchion mislif am ddim i bob merch.

Rhagor o fanylion

Ni all 1 o bob 10 merch 14-21 oed yn y DU fforddio cynhyrchion mislif. Mae 49 y cant o ferched wedi colli diwrnod ysgol oherwydd hyn. Mae merched ifanc yn peryglu eu hiechyd corfforol drwy wneud cynhyrchion mislif eu hunain o hancesi papur, sanau a bagiau plastig.
Nid problem i ferched ifanc yn eu harddegau yn unig mo hon. Mae 56 y cant o ferched ifanc 18-24 oed wedi gorfod mynd ddiwrnod heb gynhyrchion mislif hanfodol, neu ddefnyddio llai ohonynt oherwydd prinder arian.
Mae llawer o fenywod yn teimlo cywilydd oherwydd eu mislif, ac maen nhw hyd yn oed yn teimlo cywilydd ynglŷn â phrynu cynhyrchion mislif angenrheidiol iddyn nhw’u hunain. Mae'r cywilydd hwn yn hynod niweidiol gan ei fod yn atal sgyrsiau angenrheidiol am y mislif, sy’n arwain at ddiffyg gwybodaeth am eu goblygiadau yn y pen draw. Er enghraifft, diffyg lleddfu poen cramp mislif effeithiol, sy’n gallu arwain at effaith ar y gallu i weithio yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

481 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Ymgynghoriad ar Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif

Ar 20 Hydref 2021 waneth Llywodraeth Cymru lansio ymgynghoriad ar ei Chynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif. Bydd yn derbyn ymatebion hyd nes 12 Ionawr 2022. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad a sut i ymateb ar gael yma: https://llyw.cymru/cynllun-gweithredu-strategol-ar-gyfer-urddas-mislif?_ga=2.102481857.177209859.1634733298-1078779829.1634733298