Deiseb a gwblhawyd Caniatáu i gefnogwyr fynychu digwyddiadau chwaraeon yng Nghymru.

Mae cefnogwyr pêldroed a rygbi yn Lloegr bellach yn cael mynd i’r caeau chwarae i gefnogi eu clybiau, ond nid yw hyn yn cael ei ganiatáu yng Nghymru. Mae clybiau pêldroed Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam, ynghyd â’r clybiau rygbi yma yng Nghymru, yn ysu am gael gweld cefnogwyr yn dychwelyd. Mae’r clybiau’n wynebu trafferthion ariannol ac mae’r cefnogwyr yn ei chael hi’n anodd hefyd, gan gynnwys fi sydd ar goll heb gael mynd i wylio gêm bêldroed. A wnewch chi ganiatáu i hyd at 2000 o gefnogwyr ddod i’r caeau chwarae yng Nghymru, fel sy’n digwydd yn Lloegr – mae mawr angen hyn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

105 llofnod

Dangos ar fap

10,000