Deiseb a gwblhawyd Atal fferm solar anferth fydd yn dinistrio dolydd hynafol ger y Fenni

103 erw ym Mhenpergwm ar dir amaeth ardderchog yn Sir Fynwy.
Mae’r safle bron yr un mor fawr â’r tair aráe paneli solar sydd yn yr ardal yn barod gyda’i gilydd. Ble fydd nesaf?
Oherwydd maint y safle a’i hamlygrwydd, bydd unrhyw gais cynllunio yn cael ei benderfynu gan Lywodraeth Cymru yn hytrach na Chyngor Sir Fynwy, sydd wedi gwrthod y Cais Sgrinio Amgylcheddol a gyflwynwyd gan y datblygwyr ar ran Great House Energy.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cais er gwaethaf sawl canfyddiad amheus.

Rhagor o fanylion

Mae tri llwybr troed cyhoeddus, yn ogystal â llwybr ceffylau, yn croesi’r dolydd hynafol prydferth hyn, sy’n gartref i berthi, fflora a ffawna cynhenid.
Mae uchder ac amlygrwydd y safle yn golygu y gellir ei weld am filltiroedd ym mhob cyfeiriad, o fryn Cleidda, y Blorens a rhai atyniadau pwysig i dwristiaid a’r cyffiniau.
Bydd yn cael effaith andwyol ar ffermydd a thai hynafol, prin na fydd yn amgylchynu dau adeilad rhestredig Gradd II a bydd yn agos i gloddfeydd archeolegol diweddar.
Cafodd y ffyrdd mynediad arfaethedig eu hadeiladu ar gyfer ceffylau a cherti, ac fe’u defnyddir gan gerddwyr a merlotwyr – maent yn hollol anaddas ar gyfer traffig cerbydau nwyddau trwm.
Pa mor wyrdd yw ynni solar? Yn aml, caiff y metelau prinfwyn a metelau trwm a ddefnyddir i gynhyrchu paneli a batris (na ellir eu hailgylchu ar hyn o bryd) eu cloddio mewn gwledydd tlawd gan weithwyr sydd ar gyflogau isel ac sy’n cael eu hecsploetio, cyn i’r deunyddiau hyn gael eu cludo dros bellterau enfawr.
Rydym ni oll am gael ynni gwyrdd, ond ni ddylid dinistrio’r gwyrdd i gael ynni. Mae yna nifer o ddewisiadau amgen.
 phob parch, rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru wrthod unrhyw geisiadau cynllunio yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â’r datblygiad hwn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

258 llofnod

Dangos ar fap

10,000