Deiseb a gwblhawyd Peidiwch â chau’r Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol.

Mae sector lletygarwch Cymru wedi dangos ei fod yn gallu cydymffurfio’n effeithiol â’r rheoliadau COVID llym, gyda thafarndai, barrau, bwytai, caffis a llawer o leoliadau eraill yn dangos eu bod yn gallu cadw pellter cymdeithasol. Mae lletygarwch eisoes wedi addasu i ddefnyddio cyfarpar diogelu personol a mesurau hylendid ychwanegol, yn ogystal â system profi ac olrhain y llywodraeth.

Rhagor o fanylion

Mae tystiolaeth gan y llywodraeth a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai dim ond rhwng 1% a 3% o heintiadau coronafeirws newydd sy’n digwydd mewn tafarndai, barrau a bwytai. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn fodlon cyhoeddi tystiolaeth sy’n dangos bod y risg o drosglwyddo yn uwch mewn lleoliadau lletygarwch, yna byddai’n annheg cosbi’r diwydiant unwaith eto drwy ei gau drwy gydol mis Rhagfyr.
Mae tafarndai, a’r diwydiant lletygarwch yn gyffredinol, ymhlith y rhai y mae’r cyfnod clo wedi effeithio arnynt fwyaf. Mae mwy na thraean o fusnesau lletygarwch yn dweud mai prin yw ei hyder, neu fod ganddynt ddim hyder o gwbl, y byddant yn goroesi’r tri mis nesaf, yn ôl data a gasglwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gynharach y mis hwn.
Mae’r flwyddyn hon wedi gadael y sector lletygarwch ar ymyl y dibyn, gyda llawer ohono ar gau drwy gydol 2020 yn sgil y pandemig. Mae masnach y Nadolig yn hanfodol er mwyn i fusnesau aros ar agor, ac achub llawer rhag gorfod cau am byth oherwydd colli enillion.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

25,301 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Penderfynodd y Pwyllgor beidio â chyfeirio’r ddeiseb ar gyfer dadl ar sail y ffaith bod y cyfyngiadau ar y diwydiant lletygarwch wedi cael eu codi yn y Cyfarfod Llawn ar sawl achlysur yn ystod mis Rhagfyr 2020, a’r ffaith bod pleidleisiau ar y mesurau a’r Rheoliadau hefyd wedi’u cynnal ar 9 Rhagfyr a 15 Rhagfyr.