Deiseb a gwblhawyd Peintiwch y trenau ar reilffordd canolbarth Cymru fel eu bod yn debyg i lindys, er mwyn rhoi hwb i dwristiaeth.
I roi hwb i dwristiaeth yng nghanolbarth Cymru, peintiwch y trenau dau gerbyd fel eu bod yn edrych fel lindys. Byddai plant o Birmingham a Gorllewin Canolbarth Lloegr wrth eu boddau’n mynd ar drên y lindysyn i lan y môr. Byddai hefyd yn dod â gwen i wyneb pawb a fyddai’n eu gweld yn teithio i lawr y trac. Mae dirfawr angen hynny yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Rhagor o fanylion
Byddai’n ffordd hawdd o ddenu twristiaeth a byddai’n cael sylw yn y wasg genedlaethol a rhyngwladol. Byddai’n bosibl trefnu cystadleuaeth i ddewis enw pob trên, a gellid eu peintio mewn lliwiau gwahanol.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon