Deiseb a gwblhawyd Cyllid wedi'i dargedu ar gyfer canolfannau addysg awyr agored preswyl, sydd bellach yn methu â gweithredu am 12 mis.

Mae canolfannau ledled Cymru wedi gorfod cau eu drysau i ymweliadau ysgolion am o leiaf 12 mis oherwydd cyfyngiadau’r llywodraeth. Maent wedi cael yr un swm o gyllid ychwanegol â busnesau eraill, ac eto maent wedi colli bron eu holl incwm. Mae'r canolfannau hyn nid yn unig yn darparu gwasanaethau addysgol hanfodol, maent hefyd yn fewnfuddsoddiad sylweddol i rannau gwledig Cymru ac yn dod â llawer o swyddi medrus. Heb gymorth ariannol bydd llawer yn cau, gan adael ardaloedd gwledig, cyflenwyr, gwasanaethau a masnachau lleol wedi’u distrywio.

Rhagor o fanylion

Mae llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi cronfa gwerth £2 filiwn ar gyfer canolfannau yn yr Alban i’w helpu i oroesi’r pandemig. Er mwyn cyflawni'r un peth yng Nghymru, byddai angen pecyn gwerth £10 miliwn. Mae'r canolfannau hyn yn rhan fwy o'r economi yng Nghymru nag yn yr Alban. Yng Ngogledd Cymru yn unig, incwm blynyddol y canolfannau hyn yw tua £50 miliwn, sy'n cefnogi 900 o swyddi. Bydd y ffigur cenedlaethol ar gyfer Cymru yn fwy na dwbl hyn. https://www.gov.scot/news/residential-outdoor-education-centres-fund-opens/

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,181 llofnod

Dangos ar fap

10,000