Deiseb a gwblhawyd Prydau ysgol am ddim i bob disgybl yng Nghymru

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau a ganlyn ar unwaith
- Diwygio’r meini prawf cymhwyster ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim fel bod unrhyw blentyn mewn unrhyw deulu sy’n cael y Credyd Cynhwysol neu gyfwerth yn gymwys.
- Ymestyn yn barhaol yr hawl i deuluoedd sy’n methu cael arian cyhoeddus gael prydau ysgol am ddim
- Cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol fabanod
Fel y cam cyntaf tuag at ddarparu prydau ysgol maethlon am ddim i bob disgybl o oedran ysgol yng Nghymru.

Rhagor o fanylion

Mae gan bob disgybl o oedran ysgol yng Nghymru yr hawl i brydau ysgol maethlon am ddim.
Yn ôl y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, nid yw dros hanner y plant sy’n byw islaw ffin tlodi y DU yng Nghymru (dros 70,000) yn gymwys ar hyn o bryd i gael prydau ysgol am ddim. Nid yw hyn yn dderbyniol.
Mae prydau ysgol am ddim yn helpu teuluoedd mewn trafferth, yn lleihau stigma ac anghydraddoldeb, ac yn gwella iechyd a llesiant plant.
Rydym yn credu y byddai buddion prydau ysgol am ddim i bob plentyn o oedran ysgol yng Nghymru yn cynnwys
- Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb
- Helpu cyllidebau a bywyd cartref teuluoedd
- Rhoi hwb i ddysgu a chyrhaeddiad addysgol
- Helpu disgyblion i ganolbwyntio’n well drwy gydol y dydd
- Creu cyfeillgarwch yn y neuadd fwyd drwy rannu’r profiad o fwyta pryd
- Gwella anghydraddoldebau iechyd ymysg plant
- Lleihau gordewdra
- Cynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar brydau ysgol am ddim drwy leihau’r stigma sy’n gysylltiedig â budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

980 llofnod

Dangos ar fap

10,000