Deiseb a wrthodwyd Peidio â chau’r sector lletygawrch yn Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy

Rwy’n ceisio atal camau hurt y llywodraeth hon rhag cosbi siroedd gogledd Cymru gyda chyfyngiadau nad oes eu hangen ac yn sicr nad oes eu heisiau. Rydym wedi cael llond bol ar gael ein dal i bridwerth gan arweinwyr sydd yn amlwg am gadw at eu hamcanion eu hunain o ddal y Gogledd yn ôl er mwyn sybsideiddio’r sefyllfa erchyll y mae’n amlwg na allant ei rheoli yn y de. Dylai’r cyfyngiadau fod yn seiliedig ar lefel sir, nid cenedlaethol, gan fod y ffeithiau’n dangos yn glir mai gennym ni y mae’r lefelau wedi bod ar eu hisaf ers y dechrau.

Rhagor o fanylion

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi