Deiseb a wrthodwyd Caniatáu i leoliadau adloniant o dan do ar gyfer plant aros yn agored drwy’r gaeaf

Drwy gydol y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud, roedd rhieni plant ifanc wedi’u gadael heb unman i fynd â hwy ac roedd meysydd chwarae ledled Cymru wedi cau hyd yn oed. Drwy’r cyfnod atal byr, cawsom ein gadael eto heb unman i fynd â phlant dros gyfnod yr hanner tymor ond y tro hwn bu’n glawio am yr wythnos gyfan. Nawr, rydym yn wynebu gaeaf gyda’r posibilrwydd o ddim amgueddfeydd, chwarae meddal, aleau bowlio na sinemâu. Mae byd natur a chwarae tu allan yn wych ond mae angen dewisiadau eraill ar gyfer rheini sengl a’r rhai sydd â mwy nag un plentyn a babanod bach.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.

Yn sgil newidiadau mewn amgylchiadau a rheoliadau gan Lywodraeth Cymru ers creu'r ddeiseb, penderfynodd y deisebydd dynnu'r ddeiseb yn ôl.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi