Deiseb a wrthodwyd Cosbi uwch swyddogion y cyrff cyhoeddus sy'n methu cyfathrebu yn Gymraeg o safon dderbyniol

Mae gormod o gynghorau a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn darparu cyfathrebiadau o amryw fath naill ai yn uniaith Saesneg neu gyda chyfieithiadau Cymraeg cwbl wael. Derbynnir bod pawb yn gwneud camgymeriadau yn achlysurol, ond sarhad yw gorfod darllen y Saesneg neu lwyth o gamgymeriadau o achos diogrwydd y swyddogion. Pe bai cosbau ar uwch unigolion sy'n gyfrifol am y sefyllfa hon, byddai mwy o gymhelliad i sicrhau bod cyfathrebiadau'n cael eu cyfieithu'n brofesiynol lle mae angen.

Rhagor o fanylion

Lle mae cyngor sir yn cynhyrchu arwyddion ffyrdd neu wefannau ac yn y blaen, sydd yn methu cynnwys fersiwn Cymraeg yn gyfan gwbl, neu sydd yn warthus eu safon ac yn ymddangos bod wedi cael eu cyfieithu gan raglen cyfrifiadurol ofnadwy neu gan blentyn gyda geiriadur, rhaid cymryd dial ar yr uwch swyddogion. Nid mater o bedantri eithafol na'r heddlu treigladau yw hwn - does neb yn berffaith - ond mae wedi bod 'na gymaint o enghreifftiau mor embaras, megis "cyclists dismount / llid y bledren dymchwelyd" (sy'n chwerthinllyd ond ddim yn ddoniol), neu "pedestrians look right / cerddwyr edrychwch i'r chwith" (a allai fod wedi achosi damwain difrifol), yn ogystal â thudalenni gwe neu gyhoeddiadau ar gyfryngau cymdeithasol sy'n hollol Saesneg achos eu bod yn meddwl mai gormod o waith yw creu un Cymraeg, ac yn yr achosion hynny, dylid fynd â llywydd y cyngor i faes parcio Neuadd y Sir, a thaflu bwcedaid o ddŵr mwdllyd dros ei ben/phen.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mae’n rhaid i ddeisebau i’r Senedd alw am gamau gweithredu penodol sy’n dod o fewn pwerau’r Senedd neu Lywodraeth Cymru.

Yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, Comisiynydd Cymraeg sy'n penderfynu pa safonau sy'n berthnasol i gyrff cyhoeddus. Mae gan y Comisiynydd rôl ymchwilio pan gaiff safonau eu torri, gorfodi cydymffurfio a chosbi.

Yn ôl adran 16 o Fesur 2011 ni chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r Comisiynydd mewn perthynas â materion yn ymwneud â hysbysiadau cydymffurfio neu orfodi safonau.

O ganlyniad, nid yw’n bosibl i’r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn galw amdanynt.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi