Deiseb a gwblhawyd Cynyddu'r addysgu a'r wybodaeth sydd ar gael yn rhwydd am gyffuriau yn ysgolion uwchradd Cymru
Rwy'n ceisio sicrhau bod gwybodaeth am gyffuriau ar gael yn ehangach mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, gan obeithio cynyddu dealltwriaeth plant Cymru o gyffuriau a'r diwylliant o'u hamgylch. Credaf y byddai'n niweidiol i blentyn beidio â gwybod am gyffuriau a’u goblygiadau posibl. Ystyriwch lofnodi'r ddeiseb hon er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn fwy gwybodus am gyffuriau, fel hyn bydd unigolion yn gallu gwneud dewisiadau gwell a mwy addysgedig. Diolch am ddarllen.
Rhagor o fanylion
Nid yw faint o wybodaeth a addysgir am gyffuriau mewn ysgolion yn ddigonol. Fy mhrofiad personol yn yr ysgol oedd un diwrnod o gael gwybod am y gwahanol gyffuriau a’u heffeithiau ar iechyd. Llwyddais i ddatblygu fy ngwybodaeth am gyffuriau yn yr ysgol drwy astudio TGAU Addysg Gorfforol. Ac rwy’n dal i gredu nad yw hyn yn ddigon. Rwyf wedi cael sgyrsiau gydag athrawon ynghylch y pwnc hwn ond mae'n teimlo fel nad ydw i’n cyrraedd unman. Rwyf wedi gwneud y ddeiseb hon nid yn unig i annog y Gweinidogion Addysg yng Nghymru i weithredu mwy o addysg orfodol ar gyffuriau ym maes llafur ysgolion uwchradd, ond hefyd i ystyried addysgu plant ynghylch yr effeithiau niweidiol o dderbyn ‘diwylliant cyffuriau’. Pan fyddaf yn dweud hyn, rwy'n golygu, delio cyffuriau. Gallaf gydnabod yn llwyr y stigma a'r atgasedd tuag at y syniad o gynyddu'r wybodaeth am ymwybyddiaeth o gyffuriau mewn ysgolion ond, os ydych chi wedi ymweld â Chanol Dinas Caerdydd, efallai y bydd gennych ddealltwriaeth bod y defnydd o gyffuriau yno’n gyffredin iawn a dyma lle mae miloedd o blant yn mynd i gymdeithasu.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon