Deiseb a gwblhawyd Rhowch flaenoriaeth i bobl ag anabledd dysgu gael eu brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru.

Gyda'r newyddion mawr bod brechlyn COVID wedi'i gymeradwyo ac y bydd yn dechrau cael ei gyflwyno'n fuan - mae'n hanfodol cael hyn yn gywir. Nid yw'r rhestr bresennol o’r rhai a fydd yn cael eu brechu gyntaf yn rhoi blaenoriaeth i bobl ag anableddau dysgu - er ei bod CHWE GWAITH yn fwy tebygol y byddant yn marw o’r coronafeirws yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr (nid yw ystadegau Cymru wedi'u cyhoeddi eto). Hyd yn oed yn waeth, mae'r rhai ag anableddau dysgu rhwng 18 a 34 oed 30 gwaith yn fwy tebygol o farw.

Rhagor o fanylion

Rwyf wedi dechrau'r ddeiseb hon i bobl ag anableddau dysgu gael eu cynnwys yn rhestr y rhai â blaenoriaeth oherwydd fy mod yn ofni dros fy mab. Mae'n oedolyn ifanc sy'n byw mewn gofal amser llawn - pe bai'r coronafeirws yn lledaenu i'r cartref gofal, gallai fod yn ddinistriol iddo, ac eraill ag anableddau dysgu y mae'n byw gyda hwy, ac ar draws y DU.
Mae angen i ni sicrhau y caiff y grŵp hwn ei ddiogelu ac rwyf am weld rhestr o’r rhai sydd â blaenoriaeth ar gyfer brechu sy’n ystyried y rhai â chyfraddau marwolaethau uwch o COVID-19.
Dylai pobl hŷn gael eu brechu gyntaf, ond dim ond chweched ar y rhestr yw pobl, fel fy mab, y mae'r feirws yn risg fawr iddynt - does bosib bod arnom angen strategaeth wedi'i thargedu'n well wrth ddechrau'r cynllun brechu?
Llofnodwch fy neiseb fel na chaiff pobl ag anableddau dysgu eu hanghofio wrth i’r goleuni ym mhen draw'r twnnel ddod i’r golwg.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,913 llofnod

Dangos ar fap

10,000