Deiseb a gwblhawyd Rhowch derfyn ar gymhwyso'r un cyfyngiadau Covid-19 ar draws Cymru gyfan

Mae cyfraddau heintio Covid-19 yn amrywio'n fawr ar draws Cymru. Mae cyfraddau rhai ardaloedd ymysg yr uchaf yn y DU ac mae rhai ymysg yr isaf. Mae llawer o filltiroedd yn aml rhwng yr ardaloedd â'r cyfraddau uchaf ac isaf. Mae cyfyngiadau Covid-19 yn achosi difrod economaidd aruthrol, diweithdra cynyddol a chau nifer helaeth o fusnesau. Pan fydd cyfraddau'n uchel iawn, mae’n bosibl mai cyfyngiadau llym yw'r unig ffordd o reoli lledaeniad yr haint ond, pan fo cyfraddau'n isel, mae'r difrod economaidd a’r niwed iechyd yn anghymesur o uchel.

Rhagor o fanylion

Mae'r rhan fwyaf o fusnesau yn ardaloedd gwledig Cymru, lle mae cyfraddau heintio’n tueddu i fod yn isel, yn fregus iawn a bydd rhagor o gyfyngiadau sy'n effeithio ar eu gallu i fasnachu’n gorfodi llawer mwy i gau'n barhaol. Bydd hyn yn cael effaith ddinistriol ar ardaloedd lle mae diweithdra eisoes yn uchel a chyflogau'n is na'r cyfartaledd cenedlaethol, gan orfodi llawer o bobl o oedran gweithio i adael ardaloedd gwledig, yn aml am byth. Cydnabyddir bod effeithiau andwyol y cyfyngiadau ar iechyd pobl yn cyfrannu'n helaeth at y nifer fawr o farwolaethau ychwanegol sy'n digwydd yn ystod y pandemig nad ydynt yn deillio o haint coronafeirws.
Yr unig ffordd o leihau'r difrod economaidd a’r niwed iechyd a achosir gan gyfyngiadau Covid-19 wrth reoli cyfraddau heintio mewn ardaloedd â chyfraddau uchel yw defnyddio dull gweithredu haenog, fel sydd wedi'i wneud yn gyson ac yn llwyddiannus yn yr Alban a Lloegr.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

7,995 llofnod

Dangos ar fap

10,000