Deiseb a wrthodwyd Agorwch glinigau ar gyfer pobl sy’n dioddef effeithiau tymor hir Covid-19. Rhowch y gofal sydd ei angen arnyn nhw hefyd.
Roeddwn i’n sâl gyda Covid yn ôl ym mis Mawrth 2020. Nid oedd yn ddigon gwael nes bod angen i mi fynd i’r ysbyty, ond roedd yn ddigon gwael i’w ddioddef, yn enwedig gan fy mod yn byw ar fy mhen fy hun. Ar ôl 14 diwrnod o hunanynysu, ni ddiflannodd y symptomau. Roedd mor ddifrifol nes bod angen i mi roi’r gorau i’m gwaith fel gyrrwr cerbydau nwyddau trwm. Wyth mis a hanner yn ddiweddarach, rwy’n dal i ddioddef, ynghyd â miloedd o bobl eraill yng Nghymru. Nid wyf wedi cael cymorth o werth gan GIG Cymru na’r Llywodraeth. Mae’n hen bryd i ddioddefwyr nad ydynt wedi bod i’r ysbyty gael cymorth hefyd. Helpwch ni i gyd.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi