Deiseb a wrthodwyd Rhaid i gyfyngiadau lefel 4 ddod i ben ar ôl cyfnod penodol fel y digwyddodd yn achos y cyfnod atal byr blaenorol
Roedd cefnogaeth i’r cyfyngiadau’r cyfnod atal byr, i raddau helaeth, gan fod y rheolau’n dod i ben ymhen cyfnod penodol. Nid oes terfyn amser ar gyfer y cyfyngiadau lefel 4 newydd. Bydd hyn, yn anochel, yn creu pryder ymhlith pobl ac ansicrwydd i fusnesau Cymru. Nid yw’r syniad o roi’r cyfyngiadau hyn ar waith drwy Gymru gyfan am gyfnod amhenodol yn dderbyniol. Rhaid cyflwyno terfyn amser, ac os bydd yn rhaid ymestyn y cyfyngiadau, rhaid cyflwyno cynnig arall yn y Senedd, er mwyn diogelu rhyddid pobl.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi