Deiseb a wrthodwyd Cyflwynwch gyfyngiadau symud yng Nghymru cyn y Nadolig sy’n para i’r Flwyddyn Newydd ac yn achub bywydau.

Nid oedd y cyfyngiadau symud 17 diwrnod wedi gweithio. Dylid cymryd camau gweithredu pellach yn awr er mwyn sicrhau na fydd gennych ragor o farwolaethau ar eich cydwybod. Gwrandewch ar y gweithwyr proffesiynol (a'r wyddoniaeth) a thrwy hynny gallwn achub bywydau a phawb sy’n gweithio yn y GIG ac ym maes gofal sy’n ei chael hi’n anodd.

Rhagor o fanylion

Dywedodd Cymdeithas Gofal Dwys Cymru na fyddai gofal critigol yn gallu ymdopi yn ystod yr wythnosau nesaf heb "ymyrraeth ar y lefel uchaf."

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.

Yn sgil y ddeiseb yn methu â chyrraedd y llofnodion sy'n ofynnol cyn cyfnod y Nadolig, cytunodd y deisebydd i dynnu'r ddeiseb yn ôl.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi