Deiseb Gadewch i rieni plant dan 1 oed ffurfio swigen gefnogaeth o dan gyfyngiadau Covid Haen 4 newydd
Mae Lloegr wedi cyflwyno rheolau i ganiatáu i rieni plant dan 1 oed ffurfio swigen gefnogaeth gydag aelwyd ychwanegol, a hynny ym mhob haen. Hoffwn ddeisebu am i Gymru roi’r un rheolau ar waith, gan fod llawer o rieni wedi ei chael yn anodd gofalu am blant ifanc ar eu pennau eu hunain yn ystod y cyfyngiadau. Bydd y cyfyngiadau newydd yn dod i rym ar 28 Rhagfyr, gan osod Cymru yn haen 4, sy’n golygu na fydd gan rieni plant ifanc unrhyw gefnogaeth. Dilynwch esiampl Lloegr i gefnogi rhieni plant ifanc.
8,116 llofnod
10,000
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 50 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd