Deiseb a wrthodwyd stop the manufacture, sale to all countries and use of armaments and firearms in Wales

Weapons manufactured at the BAE systems plant near Glascoed and sold to warmongering nations, eg Saudi Arabia for use in wars they are fighting, kill and maim millions of people wordlwide each year and do untold damage to our environment

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cadarnhau graddau pŵer y Senedd i wneud cyfreithiau newydd a diwygio cyfraith bresennol (a elwir hefyd yn gymhwysedd deddfwriaethol). Mae Atodlenni 7A and 7B o Ddeddf 2006 yn nodi’r materion sy’n gyfyngedig neu a gedwir yn ôl - h.y. meysydd lle y caiff Senedd y DU, nid Senedd Cymru, ddeddfu.

Mae paragraff 11 o Atodlen 7A yn cadw'r holl faterion sy'n ymwneud ag amddiffyn a'r lluoedd arfog i Senedd y DU. Mae'r Nodiadau Esboniadol ar gyfer yr Atodlen yn darparu bod hyn yn cynnwys cadw materion sy'n ymwneud â'r lluoedd arfog (megis eu hoffer a'u hadnoddau).

Mae paragraff 71 o Atodlen 7A yn cadw ‘gwahardd a rheoleiddio mewnforion ac allforion’ i Senedd y DU.

Mae paragraff 51 o Atodlen 7A hefyd yn cadw testun Deddfau Drylliau Tanio 1968 i 1997 i Senedd y DU. Mae hyn yn cynnwys rheoleiddio gwerthwyr drylliau tanio yn ogystal â'r gofynion trwyddedu ac ardystio ar gyfer perchen ar ddrylliau tanio, gynnau peledi, a bwledi.

O ganlyniad, nid yw’n bosibl i’r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn galw amdanynt.

Mae rhagor o wybodaeth am bwerau deddfwriaethol y Senedd i’w gweld yma:
https://senedd.cymru/sut-rydym-yn-gweithio/ein-rol/pwerau/

Mae’n bosibl y byddwch am gyflwyno deiseb i Senedd y DU, a gallwch wneud hynny drwy ddilyn y linc a ganlyn: https://petition.parliament.uk/

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi