Deiseb a gaewyd Dylid gwahardd ar unwaith y defnydd o blwm gwenwynig yn holl ffrwydron Cymru … mae plwm yn lladd ein bywyd gwyllt!

Mae plwm yn fetel gwenwynig ac yn wenwyn cryf iawn, ond eto i gyd mae dros 6,000 tunnell yn cael eu tanio at adar hela bob blwyddyn yn y DU. Pe bai unrhyw ddinesydd yn gollwng miloedd o dunelli o wenwyn yn fwriadol i gefn gwlad Cymru, byddai’n cael ei hun o flaen ei well mewn llys barn, fel sy’n briodol.
Mae adar yn aml yn camgymryd pelenni saethu bach am raean neu hadau ac yn eu hamlyncu, gan ddioddef marwolaethau poenus o ganlyniad. Mae adar sy'n marw fel arfer yn cael eu cipio’n gyflym gan ysglyfaethwyr – sy’n golygu eu bod nhw’n marw o olwg y cyhoedd.

Rhagor o fanylion

Yn draddodiadol mae'r mwyafrif o ffrwydron – bwledi, pelenni gwn saethu a phelenni gwn aer, wedi’u gwneud â phlwm.
Mae plwm yn effeithio ar y rhan fwyaf o systemau'r corff mewn anifeiliaid, gan gynnwys y systemau nerfol a chylchrediad y gwaed, a gall dod i gysylltiad ag ef ar lefel isel effeithio ar system imiwnedd ac ymddygiad adar. Mewn rhai amgylchiadau, gall llyncu un belen plwm, hyd yn oed, ladd aderyn.
Mae consortiwm o sefydliadau saethu bellach yn cefnogi newid i ffrwydron di-blwm at ddefnydd pawb sy'n saethu prae byw gyda gynnau yn y pum mlynedd nesaf.
Rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth hon o'r difrod y mae plwm yn ei wneud i'n hamgylchedd, ond rydym o’r farn bod yr argyfwng ecolegol yn mynnu ein bod yn gosod gwaharddiad ar unwaith ar ffrwydron plwm o bob math. At hynny, credwn fod yn rhaid i'r gwaharddiad gynnwys saethiadau clai ac nid "prae byw" yn unig, gan fod y ffrwydron plwm a wastraffwyd yn dal i aros yn yr amgylchedd.
Mae Barry Action yn grŵp cadwraeth gwirfoddol bach sydd wedi'i leoli yn un o drefi arfordirol de Cymru, Barri.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

4,052 llofnod

Dangos ar fap

10,000