Deiseb a gwblhawyd Caniatáu chwaraeon wedi’u trefnu yn yr awyr agored ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed fel bod Cymru’n gweithredu yn unol â’r rheolau haen 4 yn Lloegr

Mae plant yng Nghymru wedi wynebu blwyddyn gythryblus iawn, gan orfod hunanynysu’n rheolaidd a cholli’r cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae chwaraeon yn rhan hynod bwysig o lesiant meddyliol a chorfforol. Caniateir sesiynau hyfforddi wedi’u trefnu yn Lloegr. Credwn y dylid caniatáu sesiynau o’r fath yng Nghymru hefyd. Mae iechyd corfforol yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd. Ein hamddiffyniad gorau yn erbyn y pandemig hwn ac unrhyw bandemig yn y dyfodol yw bod yn iach ac yn heini.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,461 llofnod

Dangos ar fap

10,000