Deiseb a wrthodwyd Caniatewch i rieni plant anabl dan 5 oed ffurfio swigen gefnogaeth dan y cyfyngiadau Lefel 4 newydd.

Mae Lloegr wedi cyflwyno rheolau i ganiatáu i rieni plant anabl dan 5 oed ffurfio swigen gefnogaeth gydag aelwyd ychwanegol. Caniateir hyn ym MHOB haen.
Hoffwn ddeisebu i Gymru weithredu'r un rheolau gan ei bod wedi bod yn anodd i lawer o rieni, dan y cyfyngiadau, ddarparu gofal amser llawn i'w plentyn anabl heb fawr o gefnogaeth, os o gwbl. Mae cau ysgolion a diffyg help gan y cynghorau wedi gwaethygu’r sefyllfa.

Rhagor o fanylion

Mae'r cyfyngiadau newydd ar waith yng Nghymru sydd yn haen 4. Dilynwch esiampl Lloegr i gefnogi rhieni plant anabl ifanc.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi