Deiseb a gwblhawyd Caniatáu i ddau unigolyn o ddwy aelwyd wahanol gwrdd ar gyfer ymarfer corff yn haen 4

Mae cyfyngiadau haen 4 newydd yn golygu bod yn rhaid inni ymarfer corff ar ein pennau ein hunain neu gydag aelodau o'n cartref. Fel rhedwr, rwy'n tueddu i wneud y gweithgareddau hyn gyda ffrindiau er mwyn dod allan o’r rhigol (gan nad yw fy mhartner yn mwynhau'r gweithgareddau hyn, mae’n rhaid imi eu gwneud ar fy mhen fy hun bellach). Bydd caniatáu i ddau berson o ddwy aelwyd wahanol gwrdd yn hybu llesiant ac iechyd meddwl da yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Rhagor o fanylion

Mae cyfyngiadau haen 4 yn Lloegr yn caniatáu hyn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

847 llofnod

Dangos ar fap

10,000