Ni chaiff y wefan ddeisebau ei fonitro rhwng 22 Rhagfyr a 4 Ionawr. Fe fyddwn yn ystyried eich deiseb ac ymateb i ymholiadau cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.
Deiseb a gwblhawyd Dylid atal pobl nad ydynt wedi byw yng Nghymru ers o leiaf 6 mis rhag ymgeisio yn etholiadau’r Senedd
Mae rhai pleidiau gwleidyddol yn parasiwtio ymgeiswyr i mewn o rannau eraill o'r DU ar gyfer etholiad y Senedd yn 2021.
Drwy gyflwyno'r ymgeiswyr hyn mae gwerth y Senedd yn cael ei lastwreiddio gan nad ydynt yn gyfarwydd â phobl Cymru, heb sôn am yr etholwyr y maent i fod i'w cynrychioli.