Deiseb a gwblhawyd Dylai cyfnod preswylio 3 blynedd o leiaf fod yn ofynnol i bob ymgeisydd yn etholiadau’r Senedd

Cafwyd sawl achos proffil uchel pan fo pobl wedi bod yn ymgeiswyr i’r Senedd, neu wedi cael eu hethol iddi, er nad oeddent erioed wedi byw yng Nghymru.

Rydym yn cynnig y dylid ei gwneud yn ofynnol i Aelodau etholedig o’r Senedd fod wedi byw yng Nghymru ers o leiaf 3 blynedd cyn ymgeisio, er mwyni sicrhau eu bod yn deall y cymunedau y maent am eu cynrychioli.

Credwn fod parasiwtio ymgeiswyr i'r Senedd o'r tu allan i Gymru yn tanseilio gwleidyddiaeth Cymru o ran ansawdd ac uniondeb, a rhaid i hyn gael ei atal.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

2,682 llofnod

Dangos ar fap

10,000