Deiseb a wrthodwyd Caniatáu i rieni ddewis cymryd eu plant o’r ysgol yn ystod covid-19
Mae rhieni’n cael eu gorfodi i anfon eu plant i’r ysgol yn ystod cyfnod digynsail. Nid yw’r rhain yn amgylchiadau arferol. Mae rhieni sy’n agored i salwch yn cael eu gorfodi i naill ei anfon eu plant i’r ysgol neu gael eu cosbi a’u dirwyo.
Nid yw pob plentyn yn gallu ymdopi â’r trefniadau newydd yn yr ysgol lle maent yn cael eu gwahanu ac yn gorfod cadw pellter oddi wrth bawb. Mae hyn yn effeithio ar iechyd meddwl rhai plant.
Rwy’n teimlo fod peidio â rhoi dewis i rieni yn y cyswllt hwn yn mynd yn groes i’r gyfraith hawliau dynol a chydraddoldeb.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi