Deiseb a gwblhawyd Canslo 'asesiadau' allanol ar gyfer cymwysterau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn 2021 a defnyddio graddau a aseswyd gan athrawon yn unig

Mae pethau wedi bod yn anodd iawn i fyfyrwyr eleni ac mae hynny wedi arwain at hunan-barch isel a phroblemau iechyd meddwl. Prin bod myfyrwyr wedi bod mewn ystafell ddosbarth ac eto, mae disgwyl i ni sefyll asesiadau a gaiff eu gosod yn allanol er nad ydym wedi cael gwybod fawr ddim am y rhain. Nid ydym yn dysgu yn ein cartrefi. Pan fyddaf yn mynd i'r ysgol rwy'n ymwybodol ei bod hi'n amser dysgu ond mae dysgu yn ein cartrefi’n wahanol iawn i ddysgu mewn ystafell ddosbarth lle rydych chi wyneb yn wyneb ag athro neu athrawes.

Rhagor o fanylion

Y llynedd, roeddem yn yr ysgol am y rhan fwyaf o’r amser ac eto, cafodd arholiadau eu canslo a gallwn gymharu hyn ag eleni, pan gawsom ein tynnu o’r ysgol yn gyson, mae ysgolion wedi bod ar gau ac yna’u hailagor ac mae myfyrwyr wedi bod yn mewn panig yn gyson oherwydd y teimlad hwnnw o gael eich cadw yn y tywyllwch ac eto, mae rhyw fath o arholiadau rydych chi’n eu galw'n 'asesiadau' yn dal i fynd rhagddynt. Mae Lloegr bellach wedi penderfynu defnyddio graddau a aseswyd gan athrawon, sy'n benderfyniad anhygoel, ac sy'n dangos eu bod yn gwerthfawrogi myfyrwyr eu gwlad ac sy'n dangos eu bod yn parchu athrawon ac yn ymddiried ynddynt. Credaf y dylem efelychu penderfyniad Lloegr i helpu i leddfu’r pryder y mae pob myfyriwr ar hyd a lled Cymru yn ei deimlo ar hyn o bryd. Mae myfyrwyr yn teimlo diffyg cysylltiad â’r llywodraeth gan ei bod yn ymddangos nad yw’n poeni amdanom. Nid ydym yn gwybod beth i adolygu ar ei gyfer! Nid ydym yn gwybod beth sydd o'n blaenau yn yr “amseroedd digynsail” hyn! Ac nid ydym yn gwybod a yw ein llywodraeth o’n plaid ni ynteu yn ein herbyn ni!

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

8,728 llofnod

Dangos ar fap

10,000