Deiseb a wrthodwyd Caniatáu myfyrwyr blynyddoedd 11 a 13 i ddychwelyd i’r ysgol

Mae’r cyfyngiadau symud presennol yng Nghymru yn rhwystro cynnydd myfyrwyr sydd ar eu blynyddoedd pwysicaf yn eu haddysg. Mae dysgu ar-lein yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru i geisio cadw disgyblion mewn addysg, ond nid yw hyn yn effeithiol o ran ehangu eu gwybodaeth ac nid yw mor ddefnyddiol ag addysgu wyneb yn wyneb. Gellid cefnogi hyn hefyd drwy frechu Athrawon a Staff Ysgolion er mwyn diogelu’r gweithlu sy’n gweld cannoedd o bobl bob dydd. Llofnodwch y ddeiseb, helpwch i achub bywydau.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi