Mae’n ddrwg gennym, ni allwch lofnodi deisebau sydd wedi’u gwrthod
Mae'r broses ddeisebau wedi'i hatal ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Bydd y broses yn ailddechrau ar ôl yr etholiad a bydd yn bosibl llofnodi deisebau eto bryd hynny.
Mae rhagor o wybodaeth am Etholiad y Senedd 2026 i’w chael yn : https://senedd.cymru/etholiad
Deiseb a wrthodwyd Blaenoriaethu ac achub y Sector Gofal Plant - Profi, brechu ac ariannu
Mae’r sector gofal plant yn gwegian - mae angen i ni ei achub NAWR!
Mae angen i ni alw am raddfeydd profi, brechu ac ariannu digonol gyda chymorth y llywodraeth i oroesi.
Rydym wedi gweithio’n ddiflino drwy’r pandemig hwn yn cefnogi llawer o blant a theuluoedd yn gorfforol, yn emosiynol ac yn rhithiol.
Rydym yn haeddu bod yn flaenoriaeth er mwyn parhau i gefnogi ein cymunedau.
Mae angen rhagor o gyllid arnom
Mae angen profion arnom ar frys fel blaenoriaeth,
Mae angen brechiad arnom fel blaenoriaeth - CEFNOGWCH EIN SECTOR GOFAL PLANT
Rhagor o fanylion
Profi a Brechu cyflym i staff A Gwella Graddfeydd Cyllido
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.
Yn sgil newidiadau mewn amgylchiadau a rheoliadau gan Lywodraeth Cymru ers creu'r ddeiseb, penderfynodd y deisebydd dynnu'r ddeiseb yn ôl.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi